Deiseb a gwblhawyd Cael gwared ar y terfyn niferoedd ar gyfer cynulliadau awyr agored a chaniatáu i ddigwyddiadau cymunedol barhau

Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod terfyn llym o 50 o bobl ar gyfer digwyddiadau yn yr awyr agored o Ŵyl San Steffan ymlaen. Mae hyn yn golygu’n syth nad yw nifer o ddigwyddiadau cymunedol yn bosibl mwyach, fel cynulliadau tymhorol a digwyddiadau parkrun, sydd mor bwysig i iechyd meddwl ac iechyd corfforol y genedl yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae gwahardd y digwyddiadau hyn yn greulon, yn anghymesur ac yn groes i’r holl dystiolaeth sydd ar gael ynghylch lledaeniad COVID yn yr awyr agored, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi’r penderfyniad hwn ar unwaith.

Rhagor o fanylion

Mae nifer o’r digwyddiadau hyn eisoes yn ddarostyngedig i asesiadau risg trylwyr i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn ffordd sy’n golygu lefel dderbyniol o risg o ran COVID, fel bod cyfranogwyr yn rhydd i benderfynu beth sydd orau iddynt. Gweler y ‘parkrun Covid framework’ fel esiampl.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y fframweithiau hyn yn annigonol ar gyfer diogelu’r cyhoedd ac mae’n hynod o anghyfrifol, yn ein barn ni, fod chwaraeon cymunedol yn cael eu hatal “rhag ofn” wrth gloriannu manteision parhau â’r digwyddiadau hyn ar y un llaw a’r risgiau ar y llaw arall.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,488 llofnod

Dangos ar fap

10,000