Deiseb a wrthodwyd Llwybr cyflymach newydd rhwng gogledd a de Cymru; boed hynny ar y ffordd, ar y trên, neu drwy hedfan.

Mae Cymru’n wlad brydferth ac nid ydym am ddifetha'r dirwedd, ond mae angen llwybr cyflymach arnom a fydd yn cysylltu ein gwlad, ei threfi a'i dinasoedd.
Mae angen llwybr cyflymach er mwyn yr economi a thwristiaeth, ac am resymau logistaidd yn gyffredinol.
Hoffwn i chi ymuno â mi i ddeisebu Llywodraeth Cymru i edrych o ddifrif ar gysylltu Cymru drwy gyfrwng rheilffyrdd, ffyrdd neu hedfan, a hynny er mwyn sicrhau teithio diogel, gwyrdd trwy ein gwlad.

Rhagor o fanylion

Drwy chwilio ar y rhyngrwyd, fe welwch ei bod hi'n cymryd 4 awr 23 munud i yrru o Abertawe i Llandudno, neu 6 awr ar y trên.
Efallai yr hoffech chi ddilyn llwybr cyflymach sy’n cymryd 4.32 o fynd trwy Craven Arms, neu 4.18 ar hyd yr A483 trwy'r Trallwng.
Mae’n cymryd 3 awr 43 munud i yrru i Lundain o Abertawe, neu 3 awr 18 munud ar y trên.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi