Deiseb a wrthodwyd Dylid gwneud y rhestr o domenni glo “risg uwch” yn hysbys
Mae 327 o domenni glo wedi cael eu categoreiddio gan Lywodraeth Cymru fel bod yn rhai â “risg uwch” o lithro, a allai beryglu bywyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dro ar ôl tro i wneud y rhestr o’r tomenni glo “risg uwch” hyn yn hysbys, felly nid yw pobl Cymru yn gwybod a ydyn nhw’n wynebu risg o gael eu heffeithio gan drychineb.
Rhagor o fanylion
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi