Deiseb a wrthodwyd Sicrhau bod gan seddi pob troli siopa strapiau glin sy’n gweithio er mwyn cadw babanod yn ddiogel
Nid yw seddi trolïau i fabanod yn ddiogel heb ddefnyddio strapiau. Heb gael eu hatal yn y seddi, gall babanod droi, disgyn a dringo allan ohonynt yn hawdd, gan arwain at anafiadau difrifol. Nid yw rhai archfarchnadoedd hyd yn oed yn cynnig strapiau ar y seddi ac nid yw rhai eraill sy’n gwneud hynny, yn eu cynnal a’u cadw ac mae’r rhan fwyaf o’r strapiau yn aml wedi torri, ar goll neu’n anaddas i’r diben.
.
Rhagor o fanylion
Dylai fod yn gyfraith yng Nghymru bod gan seddi pob troli strapiau sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd ac sy’n gweithio er mwyn atal babanod a phlant bach rhag cael anafiadau hawdd eu hosgoi, a allai fygwth eu bywydau.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi