Deiseb a gwblhawyd Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd
Mae’r cyhoeddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 4 Ionawr 2022 i newid y cyfnod sgrinio serfigol o bob 3 blynedd i bob 5 mlynedd yn annerbyniol. Ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a mynegwyd dicter, tristwch a phryderon difrifol am iechyd serfigol menywod Cymru yn dilyn y datganiad.
Rydym yn sylweddoli bod y GIG yng Nghymru o dan bwysau, ond mae hyn yn ANNERBYNIOL. Ni fyddwn ni, y genedl Gymreig, yn derbyn hyn ac rydym yn eich annog i wyrdroi’r penderfyniad hwn ar unwaith.
Rhagor o fanylion
Ni fydd y penderfyniad hwn yn arbed arian; bydd yn arwain at oedi o ran dod o hyd i ganser ac yn sgil hynny bydd y driniaeth yn fwy ffyrnig, hir a chostus a bydd yn fygythiad i fywydau yn y pen draw.
Nid HPV yw unig achos canser ceg y groth!
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon