Deiseb a wrthodwyd Rwyf am i Lywodraeth Cymru godi’r cyfyngiadau hynafol y maent wedi’u rhoi ar waith HEB DDIM tystiolaeth.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi mynd yn rhy bell o ran ei phwerau brys, ac wedi cyflwyno cyfyngiadau yng Nghymru sydd erbyn hyn yn cael effaith llawer mwy dinistriol ar fywydau pobl ac ar fasnach busnesau. Nid yw wedi darparu un darn o dystiolaeth i gefnogi ei phenderfyniad direswm a di-sail i’n cadw mewn cyfnod clo, i bob pwrpas, a hynny wrth i bobl yn Lloegr fod yn rhydd! Nid yw hyn yn dderbyniol. Naill ai dangoswch y dystiolaeth wyddonol sy’n sail i’r cyfyngiadau hyn, neu codwch nhw ar unwaith!

Rhagor o fanylion

Profwyd bod yr amrywiolyn Omicron yn fwynach na’r amrywiolyn delta, ac erbyn hyn dyma’r straen amlycaf o Covid-19 yn y DU, nid yng Nghymru yn unig. Gan ei fod yn ysgafnach, mae’r awgrym ei fod yn dal i beri bod y GIG yng Nghymru o dan straen yn anghywir, ac mae’r Prif Weinidog yn gwybod hyn. Mae wedi colli cysylltiad llwyr â phobl Cymru, a phobl Cymru bellach sy'n talu'r pris am ei anghymhwystra! Rwyf wedi bod yn gefnogol i’r Prif Weinidog drwy gydol y pandemig hwn, pan oedd y ffeithiau a'r niferoedd yn sail i'r hyn yr oedd yn ei wneud. Nid ydyn nhw nawr, ac mae angen iddo sylweddoli hyn. Mae Undeb Rygbi Cymru yn ystyried symud gemau cartref Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i Loegr, ac mae Eluned Morgan AS wedi dweud na fyddai cefnogaeth ariannol ar gael pe bai hynny’n digwydd. Omicron yw'r amrywiolyn sydd ei angen ar y wlad hon, er mwyn cyrraedd statws endemig, ac mae Mark Drakeford yn gwrthod cyfaddef ei fod yn anghywir. Mae angen codi'r cyfyngiadau nawr!

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi