Deiseb a gwblhawyd Sicrhau bod tadau/partneriaid geni yn cael eu cynnwys ym mhob asesiad a gofal drwy gydol y cyfnod amenedigol

Mae’r pandemig COVID-19 a’r rheoliadau dilynol wedi cael effaith ddinistriol ar lawer o dadau/partneriaid na chawsant eu caniatáu mewn sganiau, asesiadau neu weithiau hyd yn oed enedigaeth y babi. Methodd llawer o dadau'r enedigaeth yn gyfan gwbl tra'n cael eu gadael y tu allan mewn meysydd parcio am oriau a hyd yn oed ddyddiau.
Rhaid cydnabod ac adolygu profiadau tadau er mwyn llywio penderfyniadau yn y dyfodol a chanllawiau'r GIG i sicrhau bod tadau/partneriaid yn cael eu trin yn deg ac nad ydynt yn cael eu hallgáu yn y dyfodol - hyd yn oed mewn pandemig.

Rhagor o fanylion

Tra bod yr effaith negyddol ar famau wedi’i amlygu, mae hefyd yn bwysig cydnabod yr effaith ar dadau/partneriaid. Mae cael eu hallgáu fel hyn wedi arwain at faterion o ran lles ac iechyd meddwl, gorbryder a phryderon am iechyd y fam a'r babi tra'n cael eu hamddifadu o brofiadau mor werthfawr a phwysig.
Fy enw i yw Mark Williams, a dechreuais yr ymgyrch ar gyfer yr Uned Mamau a Babanod yng Nghymru rai blynyddoedd yn ôl. Mae'n gadarnhaol bod polisïau wedi newid ers hynny i fod yn fwy cynhwysol o dadau gan arwain at well canlyniadau i'r teulu cyfan a datblygiad y plentyn.
Mae rhagor o fanylion i gefnogi’r ddeiseb hon ar gael yn ein hastudiaeth sy’n awgrymu’r angen i ystyried effeithiau COVID-19 ar dadau hefyd, gan eu bod wedi cael eu hanwybyddu braidd gan waith ymchwil blaenorol sydd wedi canolbwyntio’n bennaf ar famau, ac i gynllunio ymyriadau penodol a all eu hystyried hwy hefyd.
https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/34510515/
Tadolaeth newydd mewn pandemig: Heriau ac adnoddau ar gyfer tadau a phartneriaid newydd yn ystod COVID-19 - https://blogs.surrey.ac.uk/sociology/2020/04/07/new-fatherhood-in-a-pandemic-challenges-and-resources-for-new-fathers-and-partners-during-covid- 19/

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

322 llofnod

Dangos ar fap

10,000