Deiseb a wrthodwyd Dylid sicrhau bod y cynllun cymorth hunanynysu ar gael i bawb sy’n hunanynysu
Rwyf wedi cael diagnosis o COVID-19 a chefais neges destun a chod i weld a allwn gael cymorth o dan y cynllun cymorth hunanynysu.
Ar ôl llenwi'r ffurflen, nodwyd na fyddwn yn gymwys am fy mod yn ddifrifol anabl ac yn fyfyriwr, ac fe ystyrir fy mod yn ddi-waith.
Hefyd, nid oeddwn yn gallu hawlio’r £20 yr wythnos ychwanegol am nad oeddwn yn bodloni meini prawf y llywodraeth ychwaith.
Rhagor o fanylion
Mae hyn yn gwbl annheg, ac mae’n gwahaniaethu yn erbyn pobl nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd am ba reswm bynnag. Ymddengys fod Llywodraeth Cymru o’r farn nad yw pobl sy’n ddi-waith neu’n anabl yn wynebu costau ychwanegol yn sgil Covid a hunanynysu.
Ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, gwahaniaethwyd yn erbyn pobl ddi-waith, anabl ac agored i newid o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi