Deiseb a wrthodwyd Caniatáu i bobl sydd heb gael eu brechu weithio ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif, os yw canlyniadau profion llif unffordd yn negyddol
Ar hyn o bryd gall pobl sydd wedi'u brechu'n llawn (dau ddos neu un lle bo angen) barhau i weithio ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif, os ydynt yn dangos canlyniad prawf llif unffordd negyddol dyddiol.
O gofio nad yw cael eich brechu’n llawn yn golygu na fyddwch yn gallu trosglwyddo’r feirws, mae'n gwbl annheg nad yw pobl sydd heb gael eu brechu neu nad ydynt wedi'u brechu'n llawn yn cael mynd i’r gwaith hyd yn oed os ydynt yn cael canlyniad negyddol bob dydd.
Dywedwyd wrthym na fyddai gwahaniaethu, ond dyma enghraifft amlwg o hynny.
Rhagor o fanylion
Rhoddwyd y System Pàs Covid ar waith i ganiatáu i bobl fod yn rhydd i wneud gweithgareddau hamdden. Nid yw'n gwahaniaethu oherwydd gallwch gael pàs drwy gael eich brechu'n llawn neu drwy ddangos canlyniad prawf llif unffordd negyddol. Gellid defnyddio’r un dull mewn perthynas â mynd i’r gwaith.
Os ydych yn cael canlyniad negyddol, rydych yn negyddol a dyna ni. Mae profi'n ddyddiol hyd nes y gall yr achos cadarnhaol ddychwelyd i'r gwaith yn bris bach i'w dalu am allu parhau â bywyd yn ôl yr arfer a pheidio â chael ei gosbi.
Unwaith eto, yn y sefyllfa bresennol, mae gwahaniaethu yn erbyn y rhai sydd heb gael eu brechu ac mae hynny'n rhywbeth y dywedwyd wrthym na fyddai'n digwydd.
I wneud pethau'n waeth, gall yr achos cadarnhaol ddychwelyd i'r gwaith ar ôl 7 diwrnod, ond rhaid i'r bobl iach sydd heb eu brechu gadw draw am 10!
Os nad oes gennych y feirws, nid oes modd ei ledaenu, ac mae mor syml â hynny. Dim mwy o wahaniaethu, dim mwy o gosbi.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi