Deiseb a wrthodwyd Make the teaching of LGBTQ relationships and sexual health mandatory in sexual education classes.

Sexual Education is an important and often neglected part of Secondary School education. Even when it is acknowledged, sexual health and information on LGBTQ relationships is often glossed over. Misinformation, leads to stigma and increased bullying and discrimination. This should and needs to change.

Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Allwn ni ddim cyhoeddi deisebau sy’n gofyn am rywbeth sy’n digwydd yn barod neu rywbeth sydd wedi’i gyhoeddi ers i chi ddechrau eich deiseb. Rydym ni’n credu bod y Llywodraeth neu’r Senedd eisoes yn gweithredu ar yr hyn sydd yn eich deiseb chi. Os ydych chi eisiau rhywbeth arall, gallech chi ddechrau deiseb newydd sy’n nodi’n glir beth yw hynny.

Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn elfen orfodol o'r Cwricwlwm newydd i Gymru o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

Caiff ACRh ei haddysgu yn unol â chod statudol y mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ei gyhoeddi o dan y Ddeddf. Cymeradwyodd y Senedd y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2021. Roedd hyn yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach yn 2021.

Mae’r Cod yn nodi’r canlynol:

Ym mhob un o'r llinynnau dysgu, rhaid i gynnwys y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gynhwysol ac adlewyrchu amrywiaeth. Rhaid cynnwys gwaith dysgu sy'n datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dysgwyr o wahanol hunaniaethau, safbwyntiau a gwerthoedd ac amrywiaeth o ran cydberthnasau, rhywedd a rhywioldeb, gan gynnwys bywydau LHDTC+.

Mae sawl cyfeiriad arall at addysgu a dysgu am faterion LDHTC+ yn y Cod.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2022. Bydd ysgolion uwchradd hefyd yn gallu ei haddysgu ym Mlwyddyn 7 o fis Medi 2022, ond ni fydd yn statudol ym Mlwyddyn 7 tan fis Medi 2023, pryd y bydd yn statudol ar gyfer Blwyddyn 8 hefyd. Yna, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i grŵp blwyddyn ychwanegol dros y tair blynedd dilynol.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi