Deiseb a gwblhawyd Dylid newid enw ward etholiadol newydd Saltney, Sir y Fflint i "Saltney a Saltney Ferry."

Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyllid wedi penderfynu mai'r enw ar gyfer ward unigol newydd tref Saltney yn Sir y Fflint fydd "Saltney Fferi". Credwn fod hwn yn benderfyniad sy’n seiliedig ar gamgymeriad yn adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a gall arwain at ddryswch ymhlith trigolion lleol mewn etholiadau.
Mae gan dref Saltney boblogaeth o tua 5,500 a dim ond tua 800 o’r bobl hynny sy'n byw yn y gymuned fechan a elwir yn Saltney Fferi, sy'n rhan fach o'r dref.

Rhagor o fanylion

Tudalen 65 a 66 o adroddiad y Comisiwn Ffiniau yw’r rhan honno sy’n cyfeirio’n benodol at yr ymgynghoriadau cefndir a’r argymhellion a ddilynodd adroddiad y Comisiwn Ffiniau ac a arweiniodd at benderfyniad y Gweinidog i alw’r ward newydd yn Saltney Fferi.
Mae mwyafrif helaeth trigolion Saltney yn credu bod hwn yn benderfyniad chwerthinllyd sy’n seiliedig ar gamgymeriad a wnaed pan ysgrifennwyd yr adroddiad, a bod yn rhaid ei newid ar fyrder.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

269 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Casglwyd 152 o lofnodion ar bapur, sydd yn wneud y cyfanswm o lofnodion a gasglwyd 269.