Deiseb a wrthodwyd Cryfhau deddfwriaeth i warchod y Gymraeg

Mae'r rhan fwyaf o bobl dan yr argraff bod eu Llywodraeth o blaid gwarchod eu hiaith frodorol. Fodd bynnag, nid oes yr un darn o ddeddfwriaeth yng Nghymru sydd wir yn gwarchod y Gymraeg. Mae’n bosibl gweld bodolaeth Deddf yr Iaith Gymraeg fel rhyw fath o warchodaeth, ond nid yw'r Ddeddf honno’n crafu’r wyneb yn hynny o beth. Rhaid iddi gael ei chryfhau i sicrhau bod pob agwedd ar y Gymraeg a’i diwylliant yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rhagor o fanylion

O graffu ar y mater ymhellach, nododd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, nad oes cyfraith i warchod enwau dinasoedd, trefi a phentrefi Cymru.
Os nad yw deddfwriaeth yn gwarchod enwau ein trefi a’n pentrefi, rhaid meddwl tybed – pa agweddau eraill ar y Gymraeg a adawyd yn ddiamddiffyn?
Am y tro, gall fod yn ddim mwy na gwarchod eich tref, eich dinas, neu eich pentref, ond mae’n bosibl y daw rhyw yfory pan fydd yn brif elfen yn y gwaith o gadw’n barhaol ein hiaith fel cenedl. Gan y byddai llawer o fanteision rhagweladwy yn deillio o’r posibilrwydd o greu Deddf o’r fath, ni fyddai’n gwneud drwg i neb petai’r ddeddfwriaeth yn cael ei phasio.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi