Deiseb a wrthodwyd Rhagor o gyllid ar gyfer gwasanaethau i bobl ifanc ac ailagor canolfannau cymunedol
Mae angen rhagor o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc, gan fod llawer o'r gwasanaethau hyn wedi'u cau ers dechrau'r pandemig oherwydd diffyg arian. Mae hyn wedi arwain at leihad pellach yn y cymorth safonol a gaiff ei ddarparu i'r bobl y mae angen cymorth gwirioneddol arnynt.
Dim ond dau wasanaeth iechyd sydd yn ein hardal ni, ac nid oes yr un o’r rhain wedi'i neilltuo i bobl Ifanc.
Rhagor o fanylion
• Yn 2015 mae'r ystadegau'n dangos bod y gyfradd hunanladdiad yn 10.9 person fesul 100,000 o bobl.
• Roedd y gyfradd yn uwch yng Nghymru, sef 13.0 fesul 100,000 o bobl, ac ar ei isaf yn Nwyrain Lloegr, sef 9.3.
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/bulletins/suicidesintheunitedkingdom/2015registrations
• Roedd 21,218 o gleifion yn cael gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ar ddiwedd mis Medi 2020.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi