Deiseb Sicrhau bod pob ysgol gynradd yn y wlad yn gallu cynnig darpariaeth ar ôl ysgol
Mae darpariaeth clwb ar ôl ysgol yn wasanaeth hanfodol i deuluoedd sy'n gweithio. Yn gyffredinol, mae lleoliadau gofal dydd yn costio mwy na dwbl pris darpariaeth ar ôl ysgol mewn lleoliad ysgol. Mae gan hyn oblygiadau ariannol sylweddol i deuluoedd sydd â phlant ifanc, sy'n golygu bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd ynghylch a yw'n werth gweithio. Yn anffodus, nid yw gofal ar ôl ysgol ar gael ym mhob ysgol gynradd.
Rhagor o fanylion
Gyda chlybiau ar ôl ysgol ledled y wlad yn cau oherwydd diffyg cyllid a newidiadau i ofynion cymwysterau, mae teuluoedd yn ei chael yn anodd dod o hyd i ddewisiadau amgen rhesymol o ran mynd i'r gwaith a chael gofal i'w plant.
Fy nghred i yw na ddylai rhieni sy'n gweithio orfod gwneud dewis rhwng gweithio a bod wrth gatiau'r ysgol am 3.00pm. Rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ymateb a gwarantu bod darpariaeth ar ôl ysgol mewn ysgolion yn wasanaeth a gaiff ei gynnig gan bob ysgol, ac y gall pob teulu ei ddefnyddio.
Mae darpariaeth ar ôl ysgol wedi cefnogi teuluoedd mewn gwaith ers blynyddoedd lawer. Dylai hyn fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru nid ysgolion unigol.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd