Deiseb Dylid gwahardd bridio cŵn brachycephalig yng Nghymru
Dylid gwahardd bridio rhagor o gŵn brachycephalig. Mae cŵn brachycephalig yn cael eu geni’n dioddef. Nid ydynt yn gallu anadlu, ac rydym yn eu bridio dim ond oherwydd ein bod ni’n hoffi’r ffordd maent yn edrych, ond nid yw’n deg gadael iddynt ddioddef.
Rhagor o fanylion
Mae cŵn brachycephalic yn cynnwys shih tzu, shar pei, ci tarw, ci tarw ffrengig, pug, a llawer mwy.
Mae gwyddonwyr milfeddygol yn parhau i brofi bod y cŵn hyn yn cael eu gorfodi i ddioddef. Ac eto, rydym yn parhau i'w bridio er ein mwyn ni. Dylid gwahardd bridio’r anifeiliaid diamddiffyn hyn.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd