Deiseb a wrthodwyd Peidiwch â dosbarthu'r llyfr "gwladgarol" am deyrnasiad y Frenhines i ysgolion yng Nghymru

Galwaf ar Lywodraeth Cymru i atal deunydd darllen sy’n rhagfarnllyd o blaid y frenhiniaeth rhag cael ei ddosbarthu i blant ysgolion Cymru. Mae'r weithred hon yn ymddangos fel ymdrech i ledaenu gwerthoedd brenhingar. Mae’n bropaganda imperialaidd sy’n ymddangos fel ymdrech warthus i ddylanwadu ar yr undeb trwy dargedu ieuenctid Cymru

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi