Deiseb a wrthodwyd Lleihau’r rhestr aros ADHD i blant

Mae ein bachgen bach yn 6 oed ac wedi bod ar restr aros y GIG ar gyfer asesiad Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd ers dros 14 mis, gydag oddeutu 3-4 blynedd arall i aros!! Sut mae hyn yn dderbyniol?
Yr amser y mae’n rhaid aros ar gyfartaledd yw 18 wythnos i fod, sydd yn dal i fod yn rhy hir! Rydym yn gwylio ein bachgen bach yn cael trafferth bob dydd, gyda phob diwrnod yn mynd yn anoddach fyth. Nid ydym yn gallu rheoli sut mae’n teimlo, ac rydym yn cael dadleuon, taflu, bwrw, cicio, sgrechian, slamio drysau, ac ymlaen ac ymlaen Pam ddylem ni orfod dioddef, gydag ef a ni yn ein dagrau.

Rhagor o fanylion

Ynghyd â’i ysgol, fe wnaethom ni gyflwyno ei atgyfeiriad ddyddiau wedi iddo droi’n 5 oed. Y cyngor yw bod diagnosis cynnar yn allweddol, felly pam ddylai fod yn aros bron 5 mlynedd nes ei fod yn 10 oed a bron yn yr ysgol uwchradd. Nid yw’n gallu bod yn iawn iddo orfod dioddef drwy gymaint o’i fywyd cynnar oherwydd ‘rhestr aros’.
Does bosib ei bod yn hawl dynol sylfaenol i gael y cymorth y mae ei angen arno, ond mae’n ymddangos bod diffyg cymorth ar gael ac mae’n dorcalonnus.
Nid ydym eisiau bod teulu arall yn gorfod dioddef fel rydym ni wedi gwneud ac yn parhau i wneud, o orfod bod ar y rhestr. Mae’n rhaid i hyn newid, nawr!

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi