Deiseb a gwblhawyd Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a’u cynnwys mewn targedau sero net
Cynnwys yr holl allyriadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau sector cyhoeddus yn nhargedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru a’i gwneud yn orfodol i holl sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau buddsoddiadau (cwmpas 3).
Nod awdurdodau lleol yw sero net erbyn 2030, ond maent yn buddsoddi mewn cwmnïau sy’n bwriadu echdynnu tanwyddau ffosil am ddegawdau.
Nid yw’n ofynnol ar hyn o bryd i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau! Mae’n rhaid cael gwared ar y ddihangfa hon.
Rhagor o fanylion
Esboniad cryno o allyriadau cwmpas 3.
Cwmpas 1 – allyriadau uniongyrchol o ffynonellau y mae sefydliad sector cyhoeddus yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.
Cwmpas 2 – allyriadau anuniongyrchol o drydan, ager, gwres ac awyru a brynir.
Cwmpas 3 – yr holl allyriadau eraill sy’n gysylltiedig â gweithgareddau sefydliad, gan gynnwys buddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil.
Mae cynnwys rhai allyriadau cwmpas 3 o fen y ffin weithredol ond eithrio allyriadau yn anghyson â chyflawni sero net gwirioneddol erbyn 2030 ac yn tanseilio ymdrechion datgarboneiddio’r Llywodraeth. Gweler tudalen 14, tabl 3 yma.
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-05/canllaw-sector-cyhoeddus-cymru-ar-gyfer-adrodd-ar-garbon-sero-net_0.pdf
Drwy gynnwys pensiynau a buddsoddiadau yn nhargedau’r Llywodraeth, bydd gan y sector cyhoeddus yr hyblygrwydd i benderfynu eu hunain beth i’w wneud am yr allyriadau cwmpas 3 anuniongyrchol hyn heb eu hanwybyddu.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon