Deiseb a gwblhawyd Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol

Mae symud gofal allan o'r sir yn rhoi oedolion a plant sydd mewn perygl o ganlyniadau gwael neu farwolaeth hyd yn oed. Mae'n gwastraffu amser hollbwysig pan nad yw amser ar ein hochr ni.
-Mae gennym 125,000 o drigolion a miliynau o dwristiaid. Bydd israddio’r gwasanaeth yn golygu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn peryglu eu bywydau yn fwriadol. Rhaid pwysleisio ein bod yn sir wledig, eang, gyda ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael. Purfa, gweithfeydd nwy, porthladdoedd fferi, maes tanio, chwaraeon eithafol, ynghyd ag un o'r proffesiynau mwyaf peryglus: ffermio.

Rhagor o fanylion

Mae’n bosibl y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awgrymu nad yw’r “Awr Aur” yn berthnasol bellach, gydag ambiwlansys â gwell offer a staff sydd wedi’u hyfforddi’n well, ond mae hynny’n dibynnu ar fod ambiwlans ar gael i helpu a rhoi’r gofal hwnnw ar unwaith. Mae hyn yn digwydd llai a llai, gydag ambiwlansys yn methu ag ymddangos gan eu bod yn cael eu hanfon allan o’r sir, yn methu â dadlwytho ac yn methu â dychwelyd i’r sir, i roi’r cymorth sydd ei angen.
-Mae’n deimlad ofnadwy gwybod, os yw ein perthnasau neu ein plant yn cael pwl o asthma sy’n peryglu bywyd, pwl o epilepsi, neu broblem arall lle mae amser yn hollbwysig, fod y cynlluniau newydd yn golygu eu bod yn annhebygol o gael cymorth a goroesi.
-Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud na fydd yn gwarantu y byddai gofal brys yn aros yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg hyd nes (ac os) bydd adeilad newydd ar waith!!! Mae hynny'n annerbyniol.
-Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymrwymo i bolisïau recriwtio trwyadl er mwyn sicrhau bod staff llawn yn cynnig gofal brys yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
-Rydym wedi colli ffydd ac ymddiriedaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac nid ydym yn credu ei fod yn gweithio er lles gorau Sir Benfro.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

10,678 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 29 Mehefin 2022

Gwyliwch y ddeiseb ‘Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mehefin 2022.

Busnes arall y Senedd

Llofnodion Deiseb ar bapur

Casglodd y ddeiseb hon 490 o lofnodion ar bapur, sef yn wneud cyfanswm cyfunol o 11,168 o lofnodion a gasglwyd.