Deiseb a gwblhawyd Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn

Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn cant y cant ledled y wlad, gyda sicrwydd ansawdd. Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn yw'r safon fyd-eang ar gyfer trin osteoporosis ac atal toriadau esgyrn, ond mae mynediad at y gwasanaethau yn loteri cod post. Goblygiadau hyn yw y bydd miloedd o bobl sy'n byw ar ochr anghywir llinell ddalgylch yn dioddef toriadau asgwrn cefn a chlun sy'n newid eu bywydau. Gall Llywodraeth Cymru drawsnewid y sefyllfa drwy osod cyfeiriad strategol clir o’r brig, gyda chymorth cyllid cymedrol ar gyfer Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn a chymhellion synhwyrol.

Rhagor o fanylion

Mae toresgyrn (esgyrn wedi torri) a achosir gan osteoporosis yn un o'r bygythiadau mwyaf difrifol i fyw'n dda yn ddiweddarach mewn bywyd. O'i adael heb ei drin, mae osteoporosis yn bygwth ein rhyddid, ein hurddas, ein hansawdd bywyd a'n hannibyniaeth. Gyda diagnosis cynnar a’r driniaeth gywir, gall pobl sydd ag osteoporosis fyw’n dda, o gael meddyginiaethau diogel ac effeithiol sy’n hynod fforddiadwy i’r GIG. Ond o ganlyniad i golli cyfleoedd o ran diagnosis ac ymyrraeth gynnar mae miloedd o bobl ledled Cymru yn colli’r cyfle i gael y feddyginiaeth cryfhau esgyrn sydd ei hangen arnynt. Mewn cais Rhyddid Gwybodaeth diweddar, canfu’r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol (ROS) mai dim ond pedwar allan o saith Bwrdd Iechyd a allai gadarnhau bod ganddynt Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn (ac nid yw pob un o’r rhain yn cwmpasu’r boblogaeth gyfan). Mae'r Gymdeithas Osteoporosis yn amcangyfrif y byddai cynyddu'r ddarpariaeth Gwasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn ar gyfer Cymru gyfan yn costio tua £2 filiwn y flwyddyn. Dros y pum mlynedd nesaf, byddai hyn yn arbed tua £25 miliwn i’r GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn atal dros 1,200 o achosion o dorri clun, ac yn rhyddhau dros 34,000 o ddyddiau o ran gwelyau mewn ysbytai acíwt.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

401 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 30 o lofnodion ar bapur.