Deiseb a wrthodwyd Dileu cymhwyster Bagloriaeth Cymru ym mhob ysgol uwchradd ac addysg uwch.

Mae’n hysbys bod Bagloriaeth Cymru yn achosi cryn straen a phryder i filoedd o fyfyrwyr Cymru ac rwy’n gwybod hyn fy hun gan fy mod yn fyfyriwr Addysg Uwch.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae myfyrwyr wedi gorfod wynebu nifer o achosion o anghydraddoldeb a straen ychwanegol ac mae Bagloriaeth Cymru yn ychwanegu’n ddiangen at hynny. Mae Bagloriaeth Cymru yn cyfyngu ar amser adolygu neu gyfnodau posibl o seibiant, mae'n atal myfyrwyr rhag cael bywyd cymdeithasol ac mae'n cael effaith andwyol ar eu lles.

Rhagor o fanylion

Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster dibwrpas ac nid oes iddo unrhyw ddiben gwirioneddol i ddyfodol myfyriwr pan gallent fod yn dysgu sgiliau ymarferol a hanfodol ar gyfer byw’n annibynnol. Gallai dileu Bagloriaeth Cymru hefyd helpu i wella graddau gan y byddai'n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar gyrsiau TGAU a Safon Uwch go iawn, a byddai’n tynnu’r pwysau ychwanegol oddi ar fyfyrwyr.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod pwysau Addysg Uwch wedi achosi 95 o farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr (2017). Byddai dileu Bagloriaeth Cymru yn dileu rhywfaint o’r pwysau hynny ac, oherwydd hynny, mae’n RHAID cael gwared ar y cymhwyster.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi