Deiseb a gwblhawyd Rhowch stop ar y camau i amddifadu Trefynwy o’i Cherbyd Ymateb Cyflym
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ystyried mynd â’r Cerbyd Ymateb Cyflym o orsaf ambiwlansys Trefynwy, gan adael UN ambiwlans yn unig ar gyfer yr ardal. Bydd gwneud hyn yn arwain at amseroedd ymateb hirach. Cafodd Cerbydau Ymateb Cyflym eu cyflwyno am eu bod yn gallu cyrraedd cleifion sy’n gritigol, sydd mewn mannau diarffordd, sy’n sâl, ac sydd wedi’u hanafu yn gyflym er mwyn lleddfu poen a dioddefaint ac achub bywydau. Nid yw hynny wedi newid, ac mae’r ffaith bod poblogaeth yr ardal yn cynyddu yn golygu bod angen mwy o adnoddau, nid llai.
Rhagor o fanylion
Mae data'r Cyfrifiad ar gyfer ardal Trefynwy’n dangos cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn ffigurau’r boblogaeth yno.
Gofynnwyd am ddata o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ganfod sawl gwaith y mae’r Cerbyd Ymateb Cyflym wedi cael ei ddefnyddio bob blwyddyn, ond, yn seiliedig ar wybodaeth am y gymuned, mae’n debyg ei fod yn cael ei ddefnyddio bob dydd. Mae gen i hanes personol o rywun yn fy nheulu yn dioddef o waedu digymell ar yr ymennydd dair blynedd yn ôl yn Nhrefynwy. Y Cerbyd Ymateb Cyflym oedd y cyntaf i gyrraedd, ac nid oes dwywaith na fyddai’r person hwnnw’n fyw heddiw hebddo.
Ym mis Mawrth 2012, mewn datganiad, dywedodd Stuart Fletcher, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans ar y pryd: "I believe that they provide a very rapid response which allows immediate life saving first aid to be applied until the arrival of the ambulance".
Ar ôl i wasanaethau gofal iechyd yn sir Fynwy gael eu hisraddio yn ddiweddar, fel y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Nevill Hall, a’r Fenni bellach yn gweithredu fel uned mân anafiadau yn unig, ni allwn ganiatáu i adnoddau brys yr ardal ddirywio ymhellach.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Busnes arall y Senedd
Llofnodion Deiseb ar bapur
Casglodd y ddeiseb hon 103 llofnodion ar-lein, a 3,208 ar bapur, sef yn wneud cyfanswm o 3,311 lofnodion.