Deiseb a gwblhawyd Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy’n marw yng Nghymru

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn marw yng Nghymru wedi colli’r cyfle i gael gofal lliniarol a diwedd oes.

Roedd y cynllun gofal diwedd oes ar gyfer Cymru yn gweithio i drwsio hyn, ond bydd yn dod i ben ym mis Mawrth. Ar hyn o bryd, nid oes cynllun newydd yn barod i gymryd ei le.

Mae arnom angen brys am linell amser, cyllid a staff i gyflawni cynllun newydd.
Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan heb unrhyw beth i gymryd ei le. Llofnodwch heddiw a helpwch ni i wneud yn siŵr nad yw teuluoedd yng Nghymru yn cael eu gadael mewn twll.

Rhagor o fanylion

Rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu gofal lliniarol a diwedd oes yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, ond mae’n rhaid gwneud mwy i sicrhau ein bod yn gweld gweithredu priodol.

Bydd strwythurau llywodraethiant clinigol y systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu had-drefnu’n fuan. Ym mis Mawrth 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru gynigion ar gyfer fframwaith clinigol newydd a Gweithrediaeth newydd ar gyfer GIG Cymru; mae’r fframwaith clinigol yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu Rhaglen benodedig ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes a Datganiad Ansawdd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes. Y bwriad yw i’r trefniadau hyn gymryd lle y Cynllun Cyflawni Diwedd Oes cyfredol, a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

Mae Rhaglen Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i’w chroesawu, ond mae seilwaith heb adnoddau digonol a phersonél cyfyngedig i’r rhaglen, ynghyd â’r pandemig, wedi effeithio ar y gallu gyflwyno’r rhaglen newydd yn ôl amserlen briodol. Gyda diwedd mis Mawrth yn prysur nesáu a heb Raglen Gofal Lliniarol a Diwedd Oes i’w gweld, mae’n edrych fel na fydd gan Gymru gynllun Gofal Lliniarol a Diwedd Oes am y tro cyntaf ers degawd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,195 llofnod

Dangos ar fap

10,000