Deiseb a wrthodwyd Dylid gosod cap ar y cynllun “cymorth i brynu” o 23% o bris y pwrcasiad gwreiddiol fel nad yw pobl yn cael eu gorfodi i werthu eu tŷ

Bu cynnydd o 11.6% ym mhrisiau tai rhwng mis Ionawr 2017 a Ionawr 2020. O fis Ionawr 2020 i 2021, bu cynnydd o 11% ym mhrisiau tai. O fis Ionawr 2021 i fis Medi 2021, bu cynnydd pellach o 11% (data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol).

“Cymorth i brynu” yw diben y cynllun, ond mae bellach yn cosbi pobl oedd ei angen. Cânt eu gorfodi naill ai i werthu neu i gael morgais uwch nag y byddent wedi ei ddisgwyl, a hynny am gyfnod hirach. Byddai rhywun yn disgwyl y gallai’r Llywodraeth leihau ei helw i gynorthwyo’r bobl y mae i fod i’w helpu.

Rhagor o fanylion

Yn ôl yr uchod, pe byddech chi’n prynu tŷ gwerth £250k ym mis Ionawr 2017 gyda chymorth i brynu gwerth 20%, byddech chi wedi benthyg £50k. Gan fod prisiau tai wedi cynyddu gan 37%, byddai’r tŷ hwnnw bellach werth £343,755 a byddech chi nawr angen ad-dalu £68,651.

Dyna elw o £18.651 i’r Llywodraeth am helpu, a hynny mewn pum mlynedd. Fy nghynnig i yw rhoi £7.5k o’r elw iddynt.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi