Deiseb a gwblhawyd Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio
Mae gormod o rieni â theuluoedd ifanc yn cael eu hatal rhag manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn sgil diffyg darpariaeth gofal plant lleol fforddiadwy. Mae’r sefyllfa hon yn cadw plant a theuluoedd mewn tlodi, yn lleihau dewis i gyflogwyr, ac yn cael effaith negyddol ar les teuluoedd ac economi Cymru. Mae angen ymyrraeth ar lefel wleidyddol i sicrhau bod y sefyllfa hon yn cael sylw.
Rhagor o fanylion
Fel cyn swyddog datblygu ym maes gofal plant, gallaf gadarnhau bod y sefyllfa’n waeth nawr nag yr oedd 10-15 mlynedd yn ôl, gyda gostyngiad enfawr mewn lleoedd gofal plant i fabanod a phlant hŷn. Fel rhan o’i hymrwymiad i blant a theuluoedd yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried ar fyrder opsiynau ar gyfer sicrhau bod gofal plant fforddiadwy yn hawl i bob teulu, yn yr un modd ag y mae addysg. Dylai’r Llywodraeth hyd yn oed ystyried lleoli meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant ar dir ysgolion, yn enwedig mewn adeiladau newydd neu safleoedd ysgol presennol lle mae digon o le i wneud hynny. Ni all y rhieni yr wyf yn eu hadnabod fanteisio ar gyfleoedd a fyddai o fudd i'w teuluoedd. Naill ai mae’r gofal plant yn anfforddiadwy, neu'n amlach na pheidio, nid oes gofal plant ar gael iddynt. Mae angen buddsoddiadau parhaus ar lefel Llywodraeth Cymru o ran darparu lleoedd gofal plant a darparu cymorthdaliadau ar eu cyfer. Gadewch i ni arwain y ffordd i weddill y DU!
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Busnes arall y Senedd
Llofnodion ar bapur
Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 164 o lofnodion ar bapur.
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?
Os ydych wedi wedi wynebu anhawsterau o ran darpariaeth addysg neu ofal plant i blentyn anabl, efallai bydd hyn o ddiddordeb i chi.
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg ac i ba raddau mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Am wybodaeth am yr ymchwiliad a sut i rannu eich barn:
https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=40923