Deiseb a gwblhawyd Deiseb ar gyfer ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ymgyrch gweithredwyr hawliau traws ym Mhrifysgol Caerdydd
Yn ystod y misoedd diwethaf ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gweithredwyr hawliau trawsryweddol wedi cynnal ymgyrch aflonyddu a bygythiadau treisgar yn erbyn academyddion sy’n feirniadol o Stonewall. Rydym yn teimlo nad yw’r brifysgol na’r heddlu wedi amddiffyn yr academyddion sydd, o bosibl, yn adlewyrchu cysylltiadau’r sefydliadau hyn â Stonewall. Rydym yn galw am ymchwiliad i’r mater hwn.
Rhagor o fanylion
Yn dilyn llythyr agored ym mis Mehefin 2021 a awgrymodd fod Prifysgol Caerdydd yn gadael Stonewall, dosbarthodd protestwyr daflen ag enwau a lluniau’r 15 academydd a oedd wedi’i lofnodi dan y pennawd ‘GWEITHREDWCH NAWR’. Cyflwynodd chwythwr chwiban negeseuon o dudalen Facebook y Gymdeithas LHDTC+. Ysgrifennodd myfyrwyr negeseuon hynod ymosodol, gan gynnwys bygythiadau i’r llofnodwyr.
Mae’r brifysgol wedi gwrthod cymryd camau gweithredu ystyriwn fel ystyrlon, er gwaethaf gwybod pwy oedd nifer o’r rhai oedd yn gyfrifol. Mae’n amser am ymchwiliad.
Mae mwy o wybodaeth am yr achos hwn i’w gweld yma: https://freespeechunion.org/letter-to-jeremy-miles-ms-minister-for-education-and-welsh-language-concerning-a-campaign-of-violent-threats-and-harassment-against-several-of-our-members-who-are-all-academics-at-cardiff-universit/
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon