Deiseb Defnyddiwch adeilad gwag y swyddfa dreth yn Llanisien, Caerdydd, i roi cartref dros dro i ffoaduriaid o Wcráin
Mae Cymru gyfan yn cefnogi’r ymdrechion a wneir i roi cymorth i ffoaduriaid o Wcráin, ond nid yw pawb mewn sefyllfa i gynnig lle i deulu arall yn eu cartref.
Mae’r swyddfa dreth yn Llanisien yng ngogledd Caerdydd yn adeilad enfawr sy'n wag ar hyn o bryd. Dylid troi’r adeilad hwn yn gartref i gannoedd o ffoaduriaid.
Mae ganddo gyfleusterau gwres, plymio a thrydan yn barod. Gallai pobl wirfoddoli ar gyfer y prosiect hwn, gan roi o’u hamser a'u sgiliau i droi’r adeilad yn llety cyfforddus yn gyflym iawn.
Rhagor o fanylion
Byddai cael un lleoliad ar gyfer nifer fawr o ffoaduriaid yn ei gwneud yn llawer haws i wasanaethau gyflawni’r dasg o’u hintegreiddio i gymdeithas y DU, ac i grwpiau cymuned gyfeirio eu hymdrechion i helpu. Byddai hefyd yn darparu’r gymuned Wcreineg ei hiaith y mae ei dirfawr angen ar bobl sydd wedi mynd trwy drawma difrifol yn ddiweddar.
Hefyd, mae gan y safle feysydd parcio enfawr lle y gellir codi pebyll mawr ar gyfer darparu gwasanaethau. Yn ogystal, gellir creu yno feysydd chwarae i'r plant a chodi ffreutur a fyddai’n hwyluso coginio ar gyfer nifer fawr o bobl.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd