Deiseb Gwnewch gyffordd Dorglwyd, Comins Coch ar yr A487 yn fwy diogel
Mae’r gyffordd hon ar yr A487 yn beryglus iawn. Bu llawer o ddaweiniau arni, a digwyddiadau a oedd bron yn ddamweiniau. Daw ceir rownd y gornel ddall yn rhy gyflym.
Rhagor o fanylion
Credwn y byddai modd gwella diogelwch drwy gyfyngu’r cyflymder i 30 mya neu drwy osod cylchfan neu oleuadau traffig.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd