Deiseb a wrthodwyd Cyflwyno targedau statudol, a dyletswydd i adrodd ar gynnydd, i gynyddu gorchudd coetir yng Nghymru

Mae angen i Gymru blannu 5,000 hectar y flwyddyn i gyflawni ei huchelgais i gynyddu gorchudd coed.
Ond plannodd Cymru 670 hectar yn 2018/2019, cyn Covid, a dim ond 290 hectar o goetir newydd a blannwyd yn 2020/21.
Er mwyn cyrraedd y targed sero net erbyn 2050 yng Nghymru, mae Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd wedi galw am gynnydd sylweddol o ran plannu coed.
Bellach mae angen targedau statudol ar gyfer coed llydanddail a chonwydd, a gofyniad i’r Llywodraeth adrodd i’r Senedd ar gynnydd, er mwyn cyflymu’r gwaith.

Rhagor o fanylion

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 ac yn gosod targedau interim ar gyfer 2030 a 2040.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019 a gosododd nodau i Gymru ar gyfer creu coetiroedd er mwyn dal carbon a chyfrannu at gyflawni sero net.
Fodd bynnag, nid oes digon o goetir yn cael ei blannu er mwyn cyrraedd y nodau a osodwyd eisoes ar gyfer Cymru – gweler tudalen 42 o https://www.forestresearch.gov.uk/documents/8143/Ch1_Woodland_FS2021.pdf.
Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl camau gweithredu cadarn i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a phan na fydd uchelgeisiau’n cael eu cyflawni, mae angen gweithredu.
Mae angen i’r uchelgais ar gyfer cynyddu gorchudd coetir gan o leiaf 5,000 hectar y flwyddyn yng Nghymru, fel y nodir yn y Datganiad Ysgrifenedig: Coed a Phren gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ym mis Gorffennaf 2021, gael ei throi nawr yn dargedau cyfreithiol rwymol.
Wedyn, bydd cyflawni targedau statudol o’r fath, a chyflwyno adroddiad arnynt, yn galluogi Cymru i gyrraedd ei nod cyffredinol o fod yn sero net erbyn 2050.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi