Deiseb a wrthodwyd Dylai asesiad a gwasanaethau cymorth ar gyfer Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) gael eu cyflwyno ar frys ledled Cymru.

Mae ADCG yn gyflwr niwroddatblygiadol â symptomau sy'n dechrau yn ystod plentyndod a, heb ei ddiagnosio, mae’n gallu bod yn wanychol. Gall ADCG heb ei drin arwain at risg uwch o lawer o anhwylderau iechyd meddwl, anhwylderau bwyta a hunanladdiad, anafiadau a disgwyliad oes is, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, diweithdra, digartrefedd a dyled, llai o lwyddiant addysgol a mwy o debygolrwydd o fod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol, mwy o unigedd ac ysgariad. Mae'r rhestr yn un faith.

Rhagor o fanylion

Mae pobl sy'n cael eu diagnosio a’u trin yn gywir ac yn gynnar, yn byw bywydau boddhaus, llewyrchus ac iach, ac maen nhw ymysg y bobl fwyaf creadigol a chryf eu cymhelliad. Mae llawer o fenywod yn cael eu hanwybyddu oherwydd diffyg hyfforddiant a’r ffaith eu bod yn dangos symptomau gwahanol.
Amcangyfrifodd astudiaeth a gynhaliwyd yn 2015 fod ADCG heb ei drin yn costio £11,000 ychwanegol y flwyddyn mewn arian personol ac arian cyhoeddus. (Daley et. al, 2015). Mae ADHD Action yn amcangyfrif bod ADCG gan 1.5 miliwn o bobl yn y DU, ond dim ond 120,000 sydd â diagnosis.
Ar hyn o bryd, nid oes braidd dim gwasanaethau yng Nghymru. Byddai cyflwyno gwasanaethau priodol â thimau asesu a thrin sydd wedi cael hyfforddiant priodol yn ddi-os yn lleddfu’r pwysau enfawr sydd ar wasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau cyffredinol ysbytai ac yn lleihau costau ar draws holl adrannau’r llywodraeth. Mae pobl ag ADCG yn haeddu gwell.
Rhagor o ddeunydd darllen:
https://medicalnewstoday.com/articles/untreated-adhd-in-adults
Nimh.nih.gov/health/publications/adhd-what-you- need-to-now
Tinyurl.com/NHS-Undiagnosed-ADHD

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi