Deiseb a wrthodwyd Rhaid newid y ffordd y caiff awdurdodau lleol yng Nghymru eu llywodraethu gan ddefnyddio'r system Arweinydd/Cabinet/Craffu.

Mae system lywodraethu bresennol y 22 o awdurdodau lleol a gafodd eu sefydlu ym 1995-96, wedi bod ar waith ers 2000. Dyna pryd y cafodd swyddi cyflogedig fel Arweinydd ac Aelodau'r Cabinet eu creu, yn ogystal â rolau Aelodau cyflogedig. Y sail resymegol dros y newid hwnnw oedd sicrhau mwy o amrywiaeth ym maes llywodraeth leol a rhoi cyfleoedd i’r rheini yr ystyriwyd eu bod yn destun gwahaniaethu.
Mae teimlad bod llawer o Gynghorwyr yn cael eu heithrio o'r broses o wneud penderfyniadau.

Rhagor o fanylion

Tuag 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae llawer yn teimlo nad yw'r system wedi cyflawni’r amcan dan sylw. Yn wir, mae llawer yn teimlo bod y system gyfredol hyd yn oed yn llai democrataidd na'r system flaenorol, sef y system a oedd yn seiliedig ar bwyllgorau. Mae llawer yn cael eu cythruddo gan gyflogau sy'n ymddangos yn llawer rhy hael, o ystyried methiannau nifer o awdurdodau.
Cafodd Gwerthusiad o Drefniadau Gweithrediaeth a Chraffu Llywodraeth Leol yng Nghymru ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2015. Mae’r ddogfen hon yn tynnu sylw at y diffygion niferus sydd ynghlwm wrth y trefniadau presennol, ac nid yw'r ymadrodd "Clwb Ymddeol" yn gwneud dim i ennyn hyder.
Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r methiannau difrifol sy’n bodoli ym maes llywodraeth leol, ac i ystyried a yw hi bellach yn bryd diddymu neu uno rhai awdurdodau, gan ein bod ni o’r farn bod gennym ormod ohonynt.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi