Deiseb a gwblhawyd Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru.

Mae tân diweddar ar y Mynydd Mawr, Gwynedd, wedi tynnu sylw at y broblem enfawr o "losgi dan reolaeth". Cafodd y tân ei gynnau yn ystod y tymor a ganiateir (rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth 31) er gwaethaf y tywydd sych a’r gwyntoedd cryfion diweddar, ac o gofio bod llawer o adar eisoes wedi dechrau nythu.
Disgrifiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr effaith drychinebus ar y mynydd. Mae'r mwg wedi creu trafferth i bobl leol, ac roedd criwiau o dde Cymru wedi gorfod dod i gynorthwyo hefyd.

Rhagor o fanylion

Ar un adeg, effeithiodd y tân ar ardal o tua 100,000 metr sgwâr. Nid yw hyn yn ddigwyddiad unigryw.
Y llynedd, bu dros 2,000 o dannau glaswelltir yng Nghymru, ac roedd dros 75 y cant o’r rhain wedi eu cynnau yn fwriadol.
Mae'r tannau hyn yn:
• rhoi iechyd a diogelwch criwiau tân, a thrigolion ac eiddo lleol, yn y fantol;
• peryglu bywydau pobl trwy ailgyfeirio ymdrech ac amser y gwasanaeth tân;
• arwain at gost annerbyniol i'r trethdalwr – gall hyn fod yn gannoedd o filoedd o bunnoedd, yn ôl gwasanaeth tân Gogledd Cymru;
• rhyddhau carbon a chreu mwg mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd; ac yn
• cael effaith ofnadwy ar ein hadar nythu a bywyd gwyllt arall fel y wiber, sydd yn barod mewn perygl, a hynny mewn argyfwng bioamrywiaeth. Yn draddodiadol, roedd y cyfnod rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth yn oer a gwlyb yng Nghymru, ond erbyn hyn mae'r hinsawdd wedi newid, gyda’r tywydd mwyn yn newid y tymor nythu ac adfywiad bywyd gwyllt. Mae'r RSPB yn mynnu bod llosgi mawndir ar yr ucheldiroedd yn dod i ben oherwydd y pryderon ynghylch cadwraeth a’r argyfwng hinsawdd.
Rydym yn galw ar Llywodraeth Cymru i ddod â "llosgi dan reolaeth" i ben ar fyrder.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

604 llofnod

Dangos ar fap

10,000