Deiseb a wrthodwyd Let people with terminal illness die with dignity in Wales with assistance.

Let people with a terminal illness and in pain, die with dignity in Wales with assistance from approved medical staff.

Rhagor o fanylion

Many people die from a terminal illness in Wales in terrible pain and suffering. Give these individuals the dignity of a painless death with assistance from qualified medical staff.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.

Felly, mae’r mater o addasu’r gyfraith mewn perthynas ag ewthanasia a/neu hunanladdiad a gynorthwyir y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.cymru/sut-rydym-yn-gweithio/ein-rol/pwerau/

Mae’n bosibl y byddwch am gyflwyno deiseb i Senedd y DU, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y linc a ganlyn: https://petition.parliament.uk/

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi