Deiseb a gwblhawyd Dylid adolygu'r penderfyniad yn caniatáu i awdurdodau lleol gynyddu premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi i 300 y cant

Rwy’n pryderu nad yw’r cyfraniad sylweddol y mae perchnogion ail gartrefi yn ei wneud i’r economi leol wedi cael ei ystyried a’i archwilio’n llawn mewn perthynas â’r polisi hwn. Er fy mod yn sylweddoli bod her o ran sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i bobl leol, nid gosod baich ariannol o'r math hwn ar berchnogion ail gartrefi yw'r ateb.
Fel perchnogion ail gartref sy’n treulio pob penwythnos yn ein hail gartref, rydym yn teimlo’n rhan o’r gymuned ac wedi cael croeso cynnes.

Rhagor o fanylion

Rydym yn gwario ein harian yn lleol pan fyddwn yn ymweld â’r gymuned, gan gynnwys cyflogi pobl leol i adeiladu ein cartref. Ni ellir tanamcangyfrif y cyfraniad y mae perchnogion ail gartrefi yn ei wneud.
Nid oedd llawer o berchnogion ail gartrefi yn ymwybodol o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, sef yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2021. Felly, rydym yn teimlo nad yw ein lleisiau a’n pryderon wedi cael eu clywed.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

669 llofnod

Dangos ar fap

10,000