Deiseb a gaewyd Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd

Profodd tân diweddar yng Nghlwb y Gweithwyr Tylorstown fod angen diweddaru'r seilwaith yn y Rhondda Fach ar frys. Roedd y brif ffordd wedi’i rhwystro am sawl diwrnod, dargyfeiriwyd yr holl draffig drwy strydoedd ymyl gan achosi rhwystrau a thagfeydd. Bu'n rhaid cau ysgolion, atal trafnidiaeth gyhoeddus, a chanslo cludiant i'r ysgol. Nid oedd pobl yn gallu cyrraedd y gwaith ac nid oedd llwybr hygyrch ar gyfer cerbydau brys.

Rhagor o fanylion

Mae'r ffordd liniaru o Tylorstown i Maerdy wedi bod yng nghynllun datblygu lleol yr Awdurdod Lleol ers blynyddoedd, ac mae'n bryd i bobl y Fach weld rhywfaint o weithredu cyflym. Ni all hyn ddigwydd gyda "rhewi" Llywodraeth Cymru ar ffyrdd newydd fel y mae.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

455 llofnod

Dangos ar fap

10,000