Deiseb a wrthodwyd Newid y rheolau ymweld ar gyfer aelodau o’r teulu mewn ysbytai

Y terfyn ar ymweliadau ysbyty yng Nghymru yw un person i bob claf sy'n gwbl wahanol i'r canllawiau yn Lloegr ac mewn achosion pan fo plentyn yn yr ysbyty mae hyn yn cyfyngu ar allu rieni a neiniau a theidiau i weld y plentyn hwnnw a sut i benderfynu pa riant sy'n gweld plentyn sâl, a allai achosi drwgdeimlad rhwng perthnasoedd neu waeth! Mae angen i'r terfyn newid o un aelod o'r teulu i aelodau agos gan gynnwys rhieni a neiniau a theidiau.

Rhagor o fanylion

Mae fy ŵyr tair oed yn yr ysbyty ac mae'n hurt bod ei fam yn gorfod gadael y ward dim ond er mwyn caniatáu i fy ngwraig neu finnau ymweld ag ef! Mae'n anghyfiawn, yn ddiangen ac yn annynol bod yn rhaid trafod hyn hyd yn oed ar ôl i'r rhan fwyaf o gyfyngiadau gael eu diddymu.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi