Deiseb a wrthodwyd Cyflwyno cymhorthdal tai er mwyn sicrhau hawl pobl leol i fyw gartref #HawliFywAdref
Gydag ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn erydu’r cymunedau cryfaf, mae’r amser wedi dod i fynd i’r afael ag argyfwng tai Cymru. Mae pobl a gafodd eu magu mewn ardaloedd gwledig wedi bod yn awyddus i rannu harddwch eu trefi a’u pentrefi genedigol, ac maent wedi estyn croeso cynnes i dwristiaid dros y degawdau. Fodd bynnag, rydym wedi cyrraedd pwynt lle nad yw bellach yn bosibl i bobl leol groesawu twristiaid i’w cymunedau...gan nad yw’r bobl dan sylw yn byw yn y cymunedau hynny mwyach. Maent wedi cael eu prisio allan, a’u gwthio allan. Nid oes gennym bellach yr #hawlifywadref.
Rhagor o fanylion
Mae un o bob tri o bobl yng Nghymru yn byw mewn tai anniogel/anfforddiadwy. Mae prisiau'n cael eu gwthio i fyny yn yr ardaloedd mwy 'dymunol', ac ni ddylem gael ein gorfodi i symud i ffwrdd o'n mamwlad er mwyn cael deupen llinyn ynghyd.
Ni ddylai argyfwng tai a pherchnogion eiddo lluosog fodoli ar yr un pryd mewn unrhyw wlad. Yn yr un modd, ni ddylai biliwnyddion a thlodi gydfodoli. Sut mae cyfiawnhau’r ffaith bod cartrefi gwyliau yn wag yn y gaeaf, tra bod pobl yn gorfod cysgu ar y stryd, yn yr oerfel, heb ddim mwy na blanced i’w cynhesu?
Byddai rhoi cyfle i bobl leol wneud cais am gymhorthdal yn ffordd wych o ail-gydbwyso’r sefyllfa hon - sefyllfa sydd wedi gwanhau diwylliant a threftadaeth cymunedau ledled Cymru. Byddai angen darparu tystiolaeth a rhoi trefniant gweinyddol ar waith yn ddiweddarach yn y broses, a hynny er mwyn sicrhau bod y broses yn ddilys. Fodd bynnag, rydym yn teimlo’n gryf y byddai hyn yn ffordd wych o ailddosbarthu'r 'incwm twristiaeth' nad yw pobl leol byth yn ei weld.
https://www.thenational.wales/news/19738393.time-come-finally-address-wales-housing-crisis/
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi