Deiseb a gaewyd Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru yn cael ceisiadau am daliadau gofal cymdeithasol ychwanegol wedi’i alinio â’r Cyflog Byw Gwirioneddol (taliad trethadwy o £1,498). Mae’n dweud bod y taliad ‘yn dangos ein hymrwymiad i wella statws, telerau ac amodau a llwybrau gyrfa ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.'

Wrth eithrio pob rôl hanfodol arall mewn cartref gofal, teimlwn fod y Llywodraeth wedi dibrisio ein cyfraniad, a’i bod yn disytyru’r darparwyr gofal hanfodol hyn y mae rheolwyr gofal yn cytuno eu bod yn gwbl angenrheidiol!

Dim ond ‘gweithwyr gofal, uwch staff gofal, rheolwyr gofal a nyrsys' cymwys fydd yn cael y taliad hwn ac mae cydweithwyr yn yr un cartref sydd mewn swyddi arlwyo, glanhau a chynnal a chadw, swyddogion cyllid, therapyddion, staff cymorth busnes, hyfforddwyr, staff derbynfa a chydlynwyr gweithgareddau yn cael eu heithrio’n benodol.

Rhagor o fanylion

Fel y dywedodd rheolwr fy nghartref gofal i: “Os nad oes gen i bobl yn coginio bwyd yn y gegin sut y byddaf yn bwydo'r preswylwyr?”

Mae pawb yn gwybod bod gwaith gofal yn talu’n wael, felly mae'r rhan fwyaf sy'n gwneud y gwaith yn gwneud hynny oherwydd eu cariad a’u tosturi tuag at y rhai y maent yn gofalu amdanynt. Er ei bod yn hen bryd cydnabod y swyddi gwych hyn, mae'n hynod annheg gwahaniaethu rhwng swyddi mewn lleoliad cartref gofal.

Helpwch i gefnogi staff ein cartrefi gofal!

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

540 llofnod

Dangos ar fap

10,000