Deiseb Gwneud i Lywodraeth Cymru adolygu ei bandiau a gwerthoedd treth gyngor.
Fel pob awdrudod lleol yng Nghymru, mae bandiau a gwerthoedd treth gyngor yn seiliedig ar werthoedd 2003. Mae prisiau tai wedi cynyddu’n aruthrol (ar wahanol gyfraddau), ers hynny, ac mae hyn wedi creu system sy’n annheg (ar hyn o bryd); lle mae aelwydydd mwy cyfoethog yn talu llai na rhai tlotach. Mae angen newid y system yn gyfan gwbl, er mwyn sicrhau bod y raddfa sy’n seiliedig ar werthoedd yn cael ei ddefnyddio’n briodol ar gyfer gwerthoedd presennol.
At hynny, bydd hyn yn gosod cyfraddau treth gyngor eithriadol o uchel ar dai a adeiladwyd o’r newydd.
Rhagor o fanylion
Mae’r raddfa a ddefnyddir yn bresennol yn seiliedig ar werthoedd (o 2005) yn rhoi gwerthoedd gwahanol mewn bracedi cwbl amhriodol ac fell nid yw’n werthusiad teg o gyfraddau treth gyngor lleol. Ni ddylai tai â gwerth uwch mewn ardaloedd mwy “cefnog” o’n gwlad elwa ar gyfraddau treth gyngor is; ac i’r gwrthwyneb. Mae’r system annheg hon yn fwy buddiol i’r pwrs cyhoeddus nag i’r aelwyd unigol
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd