Deiseb a gwblhawyd Adolygu’r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy’n effeithio ar ein cymunedau.
Mae cymuned Thomastown yn Nhonyrefail wedi dioddef oherwydd bod yr awdurdod lleol yn defnyddio llety gwely a brecwast yng nghanol y gymuned fel llety dros dro mewn argyfwng. Er bod yr awdurdod lleol yn mynnu bod y rhai sy’n cael eu gosod yma yn cael asesiad risg, mae’r gymuned wedi dioddef yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol, bygythiadau, trais a delio cyffuriau. Mae’r gymuned wedi’i siomi gan yr awdurdod lleol a hoffai adolygiad o’r gweithdrefnau sydd ar waith i atal hyn rhag digwydd eto.
Rhagor o fanylion
Mae’r awdurdod lleol wedi lleoli pobl ddigartref yno yn fuan wedi iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar. Mae’r gymuned wedi brwydro ers nifer o flynyddoedd i atal y cyngor rhag defnyddio’r llety gwely a brecwast ar gyfer cyn-garcharorion. Mae pobl leol wedi bod yn dyst i nifer o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol dros y blynyddoedd, sy’n achosi pryder difrifol i’r gymuned ac yn cael effaith negyddol ar eu bywydau.
Hefyd, nid oes trefniadau diogelwch ar waith, na rhwydwaith diogelwch i’r preswylwyr.
Nid yw’r gymuned eisiau i hyn ddigwydd eto ac mae’n galw am adolygiad llawn o’r gweithdrefnau a’r polisïau ar gyfer lleoli pobl ddigartref mewn llety dros dro mewn argyfwng mewn cymunedau lle nad oes cymorth priodol ar waith i gefnogi’r preswylwyr y mae’r awdurdod lleol yn eu lleoli yno.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon