Deiseb a gwblhawyd Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi

Fel rhan o’i pholisi treth i gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru am wella’r broses o wahaniaethu rhwng lletyau gwyliau cyfreithlon wedi’u dodrefnu ac ail gartrefi. Mae’r Gorchymyn drafft, er gwaethaf y cyngor i’r gwrthwyneb a gafwyd yn ymgynghoriad y Llywodraeth ei hun, yn codi lefel y ddeiliadaeth sy’n ofynnol ar gyfer ennill statws fel busnes o 70 i 182 diwrnod. Nid yw hyn o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o letyau gwyliau wedi’u dodrefnu, a fydd naill ai'n cau neu'n cael eu hailbennu fel ail gartrefi o ganlyniad i’r newid. Rydym yn cynnig trothwy o 105 diwrnod, sef cynnydd o 50 y cant, yn unol â diffiniadau Cyllid a Thollau EM.

Rhagor o fanylion

Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol yr Hunan Arlwywyr wedi casglu tystiolaeth gan oddeutu 1,500 o fusnesau bach yng Nghymru i ddangos y canlyniadau anfwriadol niweidiol i fywoliaeth a chymunedau yng Nghymru yn sgil trothwy o 182 diwrnod. Mae’n nodi na fydd y Llywodraeth yn cyflawni ei bwriad o ran polisi, sef cyfyngu ar nifer yr ail gartrefi yng Nghymru, ond y bydd yn hytrach yn lleihau nifer y busnesau Cymraeg lleol. Mae’r adroddiad a’r dystiolaeth sy’n ategu’r ddeiseb hon i’w gweld yn https://www.pascuk.co.uk/wp-content/uploads/2022/04/UKH.WTA_.PASC-BoE-1500-080422.docx
Y Gorchymyn drafft yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

3,332 llofnod

Dangos ar fap

10,000