Deiseb a wrthodwyd Creu 'Strategaeth Cwsg Genedlaethol' i roi terfyn ar dlodi gwelyau plant yng Nghymru

Rhaid i strategaeth gwsg genedlaethol roi adnoddau i awdurdodau lleol adnabod tlodi gwelyau, mynd i’r afael ag ef ac yn y pen draw roi terfyn ar y broblem.
'Dylai cwsg gael ei gydnabod fel mater iechyd cyhoeddus allweddol, sydd yr un mor hanfodol i'n llesiant â diet neu ymarfer corff' yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl.
Roedd Buttle UK yn amcangyfrif yn 2018 fod hyd at 400,000 o blant yn y DU heb wely.

Rhagor o fanylion

Mae ysgolion, y cyfryngau cenedlaethol a sefydliadau’r trydydd sector, gan gynnwys Zarach, wedi dogfennu effaith blinder hirdymor ar allu plentyn i ddysgu a’r cyfraddau cynyddol o dlodi gwelyau sydd wedi deillio yn sgil y pandemig a’r ymchwydd o deuluoedd sy’n ffoi rhag cam-drin domestig.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi