Deiseb a wrthodwyd Dylid gwahardd gwerthu gweddillion dynol heb brawf o ganiatâd, a dychwelyd gweddillion y bobl na chafwyd caniatâd ar eu cyfer

Mae gweddillion dynol yn cael eu gwerthu i gasglwyr preifat yng Nghymru. Mae'r gwerthiannau hyn yn gyfreithlon, ni waeth a yw'r person y mae ei gorff dan sylw wedi cydsynio ai peidio. Mae llawer yn honni eu bod yn dod o ffynhonnell foesegol gan gyflenwyr meddygol. Fodd bynnag, mae llawer o weddillion mewn casgliadau meddygol yn dod oddi wrth bobl ar sail hil a fu farw mewn gwrthdaro a oedd yn gysylltiedig â gwladychiaeth, neu a gafodd eu dwyn o’u beddau. Ni fyddent yn y naill achos na'r llall wedi cydsynio i gael eu prynu a'u gwerthu heddiw. Ni ddylai casglwyr preifat allu bod yn berchen ar gyrff pobl ar sail hil.

Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi