Deiseb a wrthodwyd Sicrhau fod pob gem bêl droed Cymru yn aros ar S4C a sianeli sydd am ddim i wylio

Mae’n debyg fod yr hawliau i ddarlledu gemau pel droed Cymru wedi eu gwerthu gan UEFA i gwmni sydd yn codi arian i wylio- Viaplay o 2024. Credwn fod hyn yn anheg i gefnogwyr Cymru.

Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae’n rhaid i ddeisebau i’r Senedd alw am gamau gweithredu penodol sy’n dod o fewn pwerau’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.

Gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig restru digwyddiadau chwaraeon y dylid ei darlledu am ddim. Mae’n bosibl y byddwch am gyflwyno deiseb i Senedd y DU, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y linc a ganlyn: https://petition.parliament.uk/

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau a chyfrifoldebau’r Senedd i’w gweld yma: https://senedd.cymru/sut-rydym-yn-gweithio/ein-rol/pwerau/

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi