Deiseb Creu Cerdyn / Ap Trafnidiaeth Gyhoeddus Genedlaethol
Creu ap neu gerdyn trafnidiaeth unedig i’w ddefnyddio ar yr holl drafnidiaeth gyhoeddus drwy Gymru. Dylai hwn weithio fel y Cerdyn Oyster yn Llundain, lle byddai tapio neu sganio’n caniatáu defnydd hawdd o’r holl fysiau, trenau, tramiau ac ati ledled Cymru, waeth pa gwmni sy’n eu rhedeg.
Rhagor o fanylion
Bydd yn gwella’r system drafnidiaeth gyhoeddus drwy ei gwneud yn llawer mwy hygyrch, cyflym ac effeithiol i’r teithwyr a’r rhai sy’n rhedeg y gwasanaethau. Byddai hyn yn arbennig o ddefnyddiol i deithwyr sy’n defnyddio amryw o fathau o drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd neu’n prynu tocynnau gan nifer o gwmnïau bysiau er mwyn teithio i leoliad.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd