Deiseb a gwblhawyd Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl
Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system. Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth. Mae angen i ni wybod faint o bobl sy’n byw gyda chanser y fron metastatig er mwyn gwella gwasanaethau. Ac rydym am wella canlyniadau o ran ansawdd bywyd drwy godi ymwybyddiaeth o symptomau baner goch ar gyfer canser y fron metastatig.
Rhagor o fanylion
Rydym yn galw am y canlynol:
1. Dylai pob person â chanser y fron metastatig yng Nghymru gael mynediad at nyrs glinigol arbenigol neilltuedig ar gyfer canser y fron eilaidd.
2. Dylid casglu data am y rhai sy’n byw â’r cyflwr ac yn cael triniaeth ar ei gyfer yng Nghymru.
Rydym wedi ysgrifennu llythyr agored at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ran cleifion canser y fron metastatig i ddangos yr angen am well ansawdd bywyd a mwy o gefnogaeth i’r rhai sy’n byw â’r cyflwr.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon