Deiseb a gwblhawyd Dylid gwrthod y cynnig ynghylch 36 o Aelodau ychwanegol o’r Senedd erbyn 2026.

Mae Llafur a Phlaid Cymru yn cynnig estyn y 60 Aelod o’r Senedd ar hyn o bryd i 96 o Aelodau erbyn 2026. Mae hyn yn wastraff arian cyhoeddus pan fo modd ei ddefnyddio’n well ar wasanaethau cyhoeddus, megis cyllid gwell i gynghorau lleol. Gyda’r argyfwng costau byw parhaus, bydd hyn yn arwain at wastraffu mwy o arian cyhoeddus gyda’r gost o gyflogi 36 Aelod a’u staff cymorth. Rwy’n meddwl y byddai pleidlais ar hyn gan bobl Cymru yn syniad gwell o ddemocratiaeth ar waith.

Rhagor o fanylion

Gyda’r costau byw yn effeithio ar bobl ar draws cymdeithas, rwyf o’r farn bod y cynnig ynghylch 36 Aelod ychwanegol yn wrthun. Dylai arian cyhoeddus gael ei wario ar ofal, cynghorau, cefnogi economïau lleol a helpu pobl ar draws Cymru gyfan.
Mae’r bobl yn haeddu llais ar y mater, ac rwy’n gobeithio bod digon o bobl yn llofnodi i ddwyn digon o bwysau i’r pleidiau ailystyried eu cynlluniau a meddwl am bobl Cymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

760 llofnod

Dangos ar fap

10,000