Deiseb a gaewyd Byddai agor Gorsaf Gerdded ym Magwyr a Gwndy, sy'n rhan o Raglen Gyflenwi yr Arglwydd Burns, yn llwyddiant cyflym.

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflymu’r broses o agor gorsaf gerdded ym Magwyr a Gwndy, a hynny fel 'llwyddiant cyflym' yn y broses o roi adroddiad yr Arglwydd Burns ar waith. Mae angen yr orsaf yn awr, gyda phoblogaeth Magwyr a Gwndy yn ehangu'n gyflym, a’r ardal ar fin dod yn dref.
Mae Grŵp Gweithredu Rheilffordd Magwyr (MAGOR) wedi bod yn ymgyrchu ers 10 mlynedd, gyda’r nod o adfer gorsaf reilffordd ar gyfer cymunedau Magwyr a Gwndy. Mae’r ymgyrch hon wedi ennyn cefnogaeth frwd gan y gymuned a chefnogaeth gynhwysfawr gan wleidyddion lleol yn y sir a’r Senedd, a chan ein Haelod Seneddol. O ganlyniad, cafodd y cynllun hwn ei gynnwys yn yr argymhellion a wnaed yn Adroddiad Burns ac yn y Rhaglen Gyflenwi gysylltiedig.
Credwn y byddai’r cam hwn yn 'llwyddiant cyflym' gan ei fod yn elfen dechnegol o'r cynllun sydd yn syml ac yn gost-effeithiol .
Mae hanes llawn yr ymgyrch ar gael ar ein gwefan: magorstation.co.uk.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

297 llofnod

Dangos ar fap

10,000