Deiseb a gwblhawyd Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed
Mae cyfreithiau cwympo coed o’r 1960au wedi dyddio erbyn hyn. Mae'r polisi cynllunio presennol yn caniatáu ar gyfer torri coed hynafol a hynod (veteran) i lawr.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio mewn perthynas â Gorchmynion Diogelu Coed. Mae angen mwy o ddiogelwch ar eu cyfer, mae'r cyfreithiau'n llawer rhy hamddenol.
Mae polisïau cynllunio ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach ac ar raddfa fawr yn caniatáu i ddatblygwyr eiddo/perchnogion tir wneud cais am Drwydded Cwympo Coed drwy Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed hynafol a hynod.
Rhagor o fanylion
Fideos ar sut i symud coeden heb ei thorri: -
- “How to Transplant and Move Large Trees Featuring an Air Tool”:
https://youtu.be/rMIbv6cdAsk
“Tree Moving Machine”:
https://youtu.be/9TtzQtVga7Y
“What does it cost to move a Large Tree”:
https://www.greerbros.com/greerblog/cost-to-move-a-large-tree
Pam caniatáu i goeden hynafol neu hynod gael ei thorri? Mae'n syml - yn lle ei thorri, symudwch y goeden i rywle arall. Felly, dylai polisi cynllunio gael ei ddiwygio fel a ganlyn:
“Dim torri coed hynafol / hynod, rhaid i bob datblygwr ddadwreiddio a symud y coed i leoliad agos iawn”.
Byddai hyn, yn ei dro, nid yn unig yn achub y coed ond hefyd yn creu swyddi ledled Cymru.
Achubwch goed hynafol a hynod.
Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed i lawr!
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon