Deiseb a wrthodwyd Gadewch i Lena, Anna, Vika, Alexi a Ryta gadw eu hanifeiliaid anwes!

Mae’r teulu yma o Wcráin wedi cyrraedd Cymru i geisio lloches rhag yr erchyllterau sy’n digwydd yn eu gwlad. Maent wedi dod â’u hanifeiliaid anwes gyda nhw o Wcráin. Nid yw Llywodraeth Cymru yn caniatáu iddynt gadw eu hanifeiliaid anwes os ydynt yn ceisio lloches yng Nghymru. Maent yn ystyried dychwelyd i Wcráin yn hytrach na byw heb eu hanifeiliaid anwes. Yng Nghymru a’r DU, mae anifeiliaid anwes yn cael eu hystyried yn rhan o’r teulu. Mae’r teulu hwn wedi dioddef digon, felly peidiwch â’u gwahanu oddi wrth eu hanifeiliaid anwes.
https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/ukrainian-family-considering-going-home-23979213
Peidiwch â bod yn greulon.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi